Be' sy'n newydd?

Logo secureyourfertiliser yn cael ei brintio ar fagiau o wrtaith
1 Mai 2007

Mae cynhyrchwyr gwrtaith y DU wedi dangos eu bod yn benderfynol o wneud yn siŵr fod gwrtaith yn cael ei drin a’i storio’n ddiogel drwy brintio logo gwefan securyourfertiliser ar eu bagiau. Meddai Graham Smith o NaCTSO ‘dwi’n falch iawn fod cwmnïau Terra Nitrogen a Kemira GrowHow unwaith eto wedi arwain y ffordd drwy roi’r logo ar eu bagiau. Mae euogfarnau diweddar cell derfysgol oedd yn bwriadu defnyddio gwrtaith i wneud bom anferth yn dangos pa mor bwysig ydi hi i stopio gwrtaith rhag disgyn i’r dwylo anghywir’.

Sach o Kermira GrowHowSach o Wrtaith Terra

Erthygl o’r Farmers Weekly, Chwefror 23 2007 - ‘Fertiliser Security is Paramount’

Graham Smith o NaCTSO yn pwysleisio pwysigrwydd diogelu gwrtaith rhag cael ei gamddefnyddio gan derfysgwyr ac yn rhoi sêl bendith i’r syniadau ardderchog a gynigiwyd gan ddarllenwyr y Farmers Weekly yn eu cystadleuaeth diogelu gwrtaith diweddar. Gweler y ceisiadau buddugol (800kb pdf).

ENNILLWCH £500 DRWY GYFLWYNO EICH SYNIADAU CHI AM SUT I DDIOGELU GWRTAITH
30 Hydref 2006

Mae Farmers Weekly yn cynnal cystadleuaeth (a noddir gan Assured Food Standards, pobl y Red Tractor) i ddod o hyd i’r syniadau newydd a’r offer gorau ar gyfer diogelu gwrtaith.  Gallech ennill hyd at £500 os gallwch feddwl am syniadau newydd i rwystro pobl rhag agor bagiau o wrtaith, neu ei orchuddio mewn modd fyddai’n datgelu ymgais i ymyrryd ag ef ayyb.  Neu fe allech awgrymu rhywbeth yr ydych wedi ei adeiladu yn barod, neu roi gwybod i ni am atebion ymarferol yr ydych eisoes wedi dod o hyd iddynt.

ACPO NFU Agricultural Industries Confederation ACPOS DEFRA Health & Safety Executive Heath & Safety Executive Northern Ireland