Cerbydau, peiriannau mawr ac offer

Mae'n bwysig cymryd camau i ddiogelu unrhyw gerbydau, peiriannau mawr ac offer y gallai troseddwr eu defnyddio i gael at eich stôr o wrtaith neu i symud gwrtaith o'r safle heb ganiatâd.
Mae peiriannau ac offer o'r fath yn cynnwys wagenni fforch codi, 'tele-drinwyr' a cherbydau efo craenau llwytho hydrolig wedi eu gosod arnynt.
Lle bo hynny'n bosibl dylid cadw offer llaw ac offer trydan dan glo pan nad ydynt yn cael eu defnyddio a gosod llonyddwyr ar offer mawr a cherbydau.
Mae llonyddwyr masnachol ar gael 'oddi ar y silff' a gallant fod yn effeithiol iawn, yn arbennig o ran arafu unrhyw un sydd a'i fryd ar eu defnyddio i dorri i mewn i storfa ddiogel.

Dylid cadw allweddi cerbydau a pheiriannau mewn man diogel pan nad ydynt yn cael eu defnyddio. Os oes gennych lawer o allweddi, byddai'n syniad da cadw rhestr ohonynt a'u cofnodi i mewn ac allan.
Meddyliwch am ddefnyddio offer amaethyddol trwm megis bwcedi, oged trydan neu beiriannau mawr eraill i gyfyngu ar fynediad cerbydau at domenni o wrtaith dan orchudd, yn arbennig os nad oes modd cadw'r gwrtaith mewn adeilad neu gwrt caeedig.





