Y Bygythiad

Ers blynyddoedd bellach mae grwpiau terfysgol ar draws y byd wedi bod yn defnyddio gwrtaith i wneud dyfeisiadau ffrwydrol. Gwnaed y rhan fwyaf o'r ffrwydron hyn gydag amoniwm nitrad wedi ei gyfuno â deunyddiau eraill. Mathau eraill o wrtaith sydd wedi cael eu defnyddio i wneud ffrwydron yw wrea, potasiwm nitrad a sodiwm nitrad.
Mae ffrwydron sy'n cynnwys dim ond ychydig o wrtaith amoniwm yn gallu gwneud difrod mawr. Ffrwydron gwrtaith a ddefnyddiwyd i gyflawni llawer o'r ymosodiadau terfysgol gwaethaf a welwyd yn ystod y 15 mlynedd diwethaf - o Ddinas Oklahoma in Omagh.
Y Deyrnas Gyfunol

Mae'r hanes o ddefnyddio ffrwydron gwrtaith mewn ymosodiadau terfysgol yn y DG yn mynd yn ôl i'r 1970au cynnar. Yn ystod y 'trafferthion' yng Ngogledd Iwerddon roedd grwpiau o derfysgwyr Gweriniaethol a Theyrngar yn defnyddio dyfeisiadau ffrwydrol oedd yn cynnwys gwrtaith - dyfeisiadau a arweiniodd ar nifer o farwolaethau, anafiadau a difrod. Yn fwy diweddar mae grwpiau gweriniaethol anghydffurfiol megis y Real IRA (RIRA) a'r Continuity IRA (CIRA) wedi gwrthod cytundeb Dydd Gwener y Groglith ac maent yn dal yn fygythiad gwirioneddol i Weriniaeth Iwerddon a gweddill y DG.
Mae terfysgwyr rhyngwladol hefyd yn fygythiad arwyddocaol i'r DG a buddiannau'r DG dramor. Dangosodd digwyddiadau Gorffennaf y 7fed 2005 yn Llundain allu a bwriad grwpiau terfysgol a ysgogir neu a gydlynir gan grwpiau tramor eithafol megis Al Qaida i lansio ymosodiadau.
Ymosodiadau allweddol yn y DG gyda ffrwydron gwrtaith
- 1996 - South Quay, Ardal y Dociau, Llundain
- 1996 - Manceinion
- 1998 – Omagh, Co. Tyrone
- 2001 – BBC TV Centre, Llundain
- 2001 – Ealing Broadway, Llundain
- 2001 – Birmingham (heb ffrwydro'n iawn)
Dramor

Mae grwpiau megis FARC (Columbia), ETA (Sbaen), Hamas (Israel a’r Diriogeaeth Feddianedig), Tamil Tigers (Sri Lanka) ac Al Qaida (cenedlaethol) i gyd wedi defnyddio ffrwydron gwrtaith gyda chanlyniadau distrywiol. Mae ymosodiadau nodedig wedi cynnwys:
- 1993 – Canolfan Fasnach y Byd - Efrog Newydd
- 1994 – Buenos Aires, yr Ariannin
- 1995 – Dinas Oklahoma, UDA
- 2002 – Bali, Indonesia
- 2003 – Swyddfa’r Is gennad, Istanbwl
- 2006 – Mwmbai, India

Dylid nodi fod y ffrwydron a ddefnyddiwyd yn yr ymosodiadau hyn (yn y DG a Dramor), a laddodd dros 700 o bobl ac a achosodd gwerth biliynau o bunnoedd o ddifrod, gyda’i gilydd wedi cynnwys llai na 12 tunnell fetrig o wrtaith – dim ond tua hanner llond lori.
Am ragor o wybodaeth ynghylch y bygythiad terfysgol presennol i’r DG gweler www.mi5.gov.uk.





