Egwyddorion Sylfaenol Diogelwch Da

Gall ffensys fod yn ddull syml a chost effeithiol o ddiogelu storfeydd  gwrtaith.

Argymhellir y dylai ffermydd fabwysiadu cyfuniad cytbwys o ddulliau diogelu integredig a chost effeithiol sy'n cynnwys cymysgedd o ddiogelwch corfforol a gweithdrefnau ategol.

Nid yw'r drefn arferol o ddiffinio a gosod llinell derfyn o amgylch perimedr y safle yn ymarferol ar gyfer rhai ffermydd oherwydd hyd tebygol y ffin a'r anawsterau y gallai hyn eu hachosi o ran caniatáu hawliau tramwy, mynediad angenrheidiol i gerbydau ac yn y blaen.

Dylid felly feddwl am ddiogelu a chadw llygad ar ardaloedd o fewn ffiniau'r fferm sy'n arbennig o sensitif - yn yr achos hwn, storfeydd gwrtaith (neu lle mae angen diogelu eitemau gwerthfawr eraill).

Cofiwch, dylai gofynion Iechyd a Diogelwch gymryd blaenoriaeth dros faterion diogeledd bob amser. Wrth ystyried mesurau a gweithdrefnau diogelwch, ni ddylid mabwysiadu unrhyw drefniadau a allai beryglu iechyd a diogelwch preswylwyr, gweithwyr, ymwelwyr (gydag awdurdod a heb awdurdod) neu bobl eraill y gellid yn rhesymol ddisgwyl iddynt ymweld â'r safle. (Am ragor o wybodaeth ynglŷn â gofynion Iechyd a Diogelwch, ewch i wefan y Gweithgor Iechyd a Diogelwch Health & Safety Executive website.)

Y nod allweddol yw atal eich gwrtaith rhag cael ei ddwyn yn y lle cyntaf. Tra nad oes y fath beth a diogelwch llwyr, mae llawer o gamau syml a all leihau'r posibilrwydd y caiff eich gwrtaith ei ddwyn. Efallai bod storio eich gwrtaith mewn ysgubor dan glo neu ei gadw dan darpolin mewn ysgubor ochr agored yn ymddangos yn gamau sylfaenol iawn, ond er hynny maent yn hynod o effeithiol. Mae cau a chloi gatiau ar ffyrdd sy'n arwain at storfeydd gwrtaith hefyd yn gamau rhad a chyflym fydd yn atal rhai troseddwyr (ond nid pob un).

Os yw eich gwrtaith yn cael ei ddwyn, neu os bu ymgais i'w ddwyn, mae'n bwysig iawn eich bod yn ymwybodol o hynny. Bydd rhoi mesurau diogelwch yn eu lle yn ei gwneud yn llawer haws i chi weld os cafodd gwrtaith ei ddwyn, neu os bu ymgais i'w ddwyn, sy'n golygu y gallwch roi gwybod i'r heddlu.

Bydd cadw'r egwyddorion canlynol mewn cof yn eich helpu i oedi, atal, a datgelu tresmaswyr posibl.

ACPO NFU Agricultural Industries Confederation ACPOS DEFRA Health & Safety Executive Heath & Safety Executive Northern Ireland