NaCTSO - Pwy ydym ni, beth ydym yn ei wneud

 

Uned heddlu yw'r Swyddfa Diogelwch Gwrthderfysgaeth Genedlaethol (NaCTSO) sydd wedi ei chydleoli gyda'r Gwasanaeth Diogelwch (MI5) yn y Ganolfan Cyngor Diogelwch Genedlaethol (NSAC).

Gall ein staff gynnig cyngor arbenigol ynglŷn â diogelu ffrwydron a chemegau (gan gynnwys gwrteithiau), pathogenau a gwenwyn, ffynonellau radiolegol a chemegau gwenwynig eraill.

Rydym hefyd yn cynnig arweiniad ynghylch didoredd busnes, amddiffyn mannau prysur a lleihau cyfleoedd i derfysgwyr ymosod.

Er mwyn sicrhau darpariaeth genedlaethol ar ran Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu (ACPO), mae NaCTSO yn hyfforddi, yn tasgio ac yn cydlynu rhwydweithiau cenedlaethol o ymgynghorwyr heddlu arbenigol a elwir yn Ymgynghorwyr Diogelwch Gwrthderfysgaeth (CTSAs) a'u gwaith sylfaenol yw rhoi cyngor ac arweiniad ar bob agwedd o ddiogelwch amddiffynnol gwrthderfysgaeth ar draws amrywiaeth o sectorau.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â NaCTSO ewch i www.mi5.gov.uk.

Os ydych angen cyngor penodol ynghylch diogelwch amddiffynnol dylech gysylltu â'ch swyddog lleihau trosedd lleol yn y lle cyntaf.

ACPO NFU Agricultural Industries Confederation ACPOS DEFRA Health & Safety Executive Heath & Safety Executive Northern Ireland