Cloeon

Yn gyffredinol mae cloeon mortais neu sash (sy'n cael eu gosod i mewn yn y drws) yn fwy diogel na chloeon sy'n cael eu rhoi yn sownd ar arwyneb y drws. Argymhellir cloeon pum lifer yn hytrach na chloeon dau neu dri lifer gan fod dewis o dros 1,000 o allweddi gyda'r mathau hyn, sy'n ei gwneud yn llawer mwy annhebygol y gellir dod o hyd i allwedd yr un fath.
Dylai cloeon sy'n cael eu gosod i ddiogelu drysau, gatiau a chaeadau gydymffurfio a BS 3621.
Gall cloeon clap fod yn rhai gefyn agored neu'n gaeedig. Mae'r gair 'agored' yng nghyswllt clo clap yn cyfeirio at y ffaith fod cryn dipyn o fwlch rhwng canol y gefyn a chorff y clo clap ac y byddai felly'n bosibl ei agor gyda throsol neu bâr o dorwyr bolltau. Mewn clo clap gefyn caeedig mae'r bwlch rhwng corff y clo a'r gefyn yn llai o lawer sy'n golygu nad yw mor hawdd defnyddio trosol neu dorrwr bolltau i'w falu.
Wrth ddiogelu drws neu bâr o ddrysau, gellir defnyddio clo clap yn ogystal â bar cloi neu far pad.Gall y rhain fod yn llorweddol neu'r fertigol a dylid eu bolltio'n ddiogel wrth ddrysau pren neu eu weldio'n sownd wrth ddrysau metal.

Dylai cloeon clap gydymffurfio â safon BS EN 12320 neu fod o safon gyfatebol. Argymhellir cloeon clap gyda hualau neu 'ysgwyddau' wedi codi gan eu bod yn gwrthsefyll ymosodiad yn well.
Mae'n bwysig cadw rheolaeth ar allweddi a sicrhau eich bod yn gwybod ymhle mae pob allwedd bob amser.
Dylid cadw allweddi'n ddiogel pan nad ydynt yn cael eu defnyddio. Peidiwch â chael eich temtio i gadw allwedd sbâr mewn man cuddio cyfleus - mae tresmaswyr fel arfer yn dod o hyd iddynt yn ddigon cyflym.Byddai'n llawer gwell syniad gadael allweddi sbâr gyda ffermwr cyfagos, a gallech chi wneud yr un peth iddyn nhw.
Am ragor o wybodaeth ynghylch diogelu eiddo, gweler "A Guide to Home Security". Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am gloeon yn "Your Home Security: Locks".





