Goleuadau Diogelwch

Goleuadau Diogelwch a ysgogir â synhwyrydd.

Dylai goleuadau diogelwch fod yn rhan o fesurau diogelwch hollgynhwysfawr eich eiddo. Nid oes raid i'r offer fod yn ddrud i'w osod, i'w gynnal a'i gadw na'i redeg ac mae'n ddull da iawn o atal tresmaswyr.

Os caiff ddigon o amser, gall tresmaswr penderfynol a dyfeisgar drechu unrhyw fesurau diogelwch corfforol neu systemau larwm/datgelu. Fodd bynnag, bydd goleuadau diogelwch effeithiol yn lleihau'r amser fydd ar gael i dresmaswyr dorri i mewn i eiddo ac yn eu gwneud yn haws o lawer i'w darganfod.

Os meddyliwch yn ofalus am leoliad eich goleuadau, gallwch:

Gellir prynu a gosod goleuadau sylfaenol am bris isel iawn. Dylid rhoi ystyriaeth i effeithiolrwydd cost

Gellir ysgogi goleuadau â synwyryddion symudiad neu gellir gadael y goleuadau ymlaen drwy'r nos, er bod astudiaethau wedi dangos fod lefelau is o olau cyson yn fwy effeithiol fel mesur ataliol na goleuadau llachar sy'n dod ymlaen yn sydyn.

Cyfaddawd da fyddai defnyddio goleuadau tra-effeithiol,ynni-isel, a reolir â chell ffoto-electrig (swîts cyfnos tan y wawr). Mae'r math yma o olau, wedi ei osod allan o gyrraedd (tua 10 troedfedd yn uwch na lefel y llawr) yn rhoi digon o olau heb daflu llawer o gysgodion a dim ond ychydig o bunnoedd y flwyddyn mae'n ei gostio i'w redeg er ei fod yn cael ei adael ymlaen drwy'r nos.

Am ragor o wybodaeth ynghylch goleuadau diogelwch, ewch i "Burglary: Home Security Lighting".

ACPO NFU Agricultural Industries Confederation ACPOS DEFRA Health & Safety Executive Heath & Safety Executive Northern Ireland