Diogelwch Eich Gwrtaith
Ers dechrau’r 70's mae gwrtaith anorganig nitrogenaidd wedi cael ei gamddefnyddio gan derfysgwyr fel cynhwysyn mewn ffrwydron cartref (FfC). Tra bo pob math o wrtaith nitrad solet yn peri pryder, mae'r defnydd eang o amoniwm nitrad (AN) a gwrtaith seiliedig ar amoniwm nitrad yn arbennig o arwyddocaol.
Ar hyn o bryd mae’r DU yn mewnforio tua 4 miliwn tunnell o AN a gwrtaith seiliedig ar AN bob blwyddyn, a hynny o farchnad fyd-eang o 23 miliwn tunnell. Nid yw’n syndod felly (o ystyried màs tir cymharol fychan y DU) mai’r DU yw’r defnyddiwr mwyaf o AN a gwrtaith seiliedig ar AN yn y byd. Mae hyn yn golygu fod cymysgu, storio, cludo a defnyddio gwrtaith yn gyffredin iawn ac yn creu cyfleoedd i rai sydd â’u bryd ar gyflawni gweithredoedd terfysgol gael gafael ar ddeunydd o’r fath.
Nod y wefan hon yw codi ymwybyddiaeth y gymuned ffermio a thyfu cnydau o’r peryglon cysylltiedig â gwrtaith a rhoi canllawiau ymarferol ynglŷn â sut i’w ddiogelu


Os oes gennych unrhyw amheuaeth ynghylch gweithredoedd neu ymddygiad unrhyw un, neu os oes gennych unrhyw wybodaeth a allai fod yn berthnasol, ffoniwch y Llinell Gwrthderfysgaeth Frys ar 0800 789 321. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.





