Cadw Tŷ

Os ydych yn edrych ar ôl eich fferm yn iawn, byddwch yn atal tresmaswyr. (Llun gan Andrew Pearce)

Ni ddylech danbrisio'r effaith y gall yr olwg sydd ar eich fferm gael ar eraill. Mae ymchwil wedi profi fod ffermydd sy'n edrych fel pe baent yn cael eu cynnal a'u cadw'n iawn gryn dipyn yn llai tebygol o ddioddef gweithgaredd troseddol.

Dydy cadw tŷ yn iawn yn costio fawr ddim ond mae'n creu'r argraff o berchnogaeth a theimlad fod rhywun yn gofalu am y safle.

Mae hefyd yn cynyddu'n sylweddol y posibilrwydd y byddwch yn gweld yn syth os oes rhywbeth allan o'i le neu os oes rhywbeth wedi cael ei ddifrodi wrth i rywun dorri i mewn, neu geisio torri i mewn.

Dylid cadw adeiladau, ffensys a strwythurau eraill yn lân ac yn drwsiadus, gwneud unrhyw waith cynnal a chadw ar unwaith, a chlirio a symud sbwriel ayyb lle bo hynny'n bosibl.

Mae'n syniad da cadw rhestr o rifau ffôn allweddol, megis rhif yr heddlu lleol, ffermydd cyfagos ayyb fel y gallwch gysylltu'n gyflym a'r bobl briodol pe bai angen.

ACPO NFU Agricultural Industries Confederation ACPOS DEFRA Health & Safety Executive Heath & Safety Executive Northern Ireland