Ffensys a Gatiau

Os oes raid storio gwrtaith y tu allan, dylid ei storio o olwg mannau lle caiff y cyhoedd fynediad. Dylid gorchuddio twmpathau o wrtaith efo tarpolin neu rywbeth tebyg fel nad yw'n uniongyrchol amlwg beth sydd oddi tano ac er mwyn gwneud unrhyw olion o ymyrraeth yn amlycach.
Gellir storio gwrtaith yn fwy diogel y tu allan drwy adeiladu cwrt gyda ffens diogelwch wedi ei osod yn ei le'n iawn o'i amgylch a gatiau o'r math priodol i'w gloi.
Mathau o Ffensys
Y mathau o ffensys gwrth dresmasu a argymhellir yw:
Dylai ffensys gydymffurfio â Safon Brydeinig 1722 neu gyffelyb. Byddai rhoi weirenbigog neu weiren rhasal ar dop y ffens yn gam ychwanegol fyddai'n atal rhywun rhag dringo drosti i gael ag y gwrtaith. Dylid cadw Deddf Atebolrwydd y Meddiannwr 1984 mewn cof mewn perthynas ag uchder y ffens a'r angen am arwyddion
Yn gyffredinol mae ffensys uwch yn cynnig gwell amddiffyniad yn erbyn tresmaswyr ond cofiwch eich bod yn debygol o fod angen caniatâd cynllunio ar gyfer unrhyw ffens dros 2 m o uchder (yn cynnwys y weiren bigog ayyb ar ei phen). Gellir gwneud ffensys yn fwy diogel drwy osod y ffens yn is na lefel y tir a gorchuddio'i gwaelod â silff o goncrit.
Palisâd
Mae ffensys palisâd yn cael eu gwneud o estyll fertigol. Gellir galfanu'r ffensys yma a'u gorchuddio â haen o bolymer ac mae gwahanol drwch a phroffiliau i'w cael.
Bydd y system a ddefnyddir i osod y ffens yn effeithio ar ba mor ddiogel fydd y ffens. Nid yw'n hawdd gweld (yn arbennig ar ongl) drwy ffens palisâd.Gellir atgyweirio difrod i ffens palisâd yn rhwydd iawn drwy ailosod yr estyll a gellir codi'r ffens yn uwch drwy ychwanegu estyll sy'n ymestyn. Mae ffensys palisâd yn boblogaidd iawn ond nid ydynt yn cynnig dim mwy o amddiffyniad na ffens weldmesh neu ffenys metal ehangedig o'r un uchder.
Ffenys Metal Ehangedig
Mae ffensys metal ehangedig yn gryf ac yn anhyblyg (os ydynt yn cael eu codi'n iawn) a gellir eu galfaneiddio neu eu gorchuddio â pholyester i wneud iddynt bara'n hirach. Mae'n anodd torri drwyddynt ond i'w trwsio mae'n debyg y bydd angen ailosod panel cyfan.Dylid rhoi ystyriaeth i symudiad anifeiliaid gan fod y rhwyll yn dueddol o fod yn finiog a gallai anafu anifeiliaid.
Rhwyll wedi'i weldio
Gellir galfanu neu orchuddio ffens rhwyll wedi'i weldio, mae'n haws gweld drwyddo na'r ddau fath arall a gellir dadlau ei fod yn edrych yn well hefyd. Mae'n anodd ei dorri ac efallai y bydd yn addas ar gyfer system larwm ffens.
Gatiau

Yn aml iawn gatiau yw'r man gwan mewn ardal sydd fel arall y ddiogel. Dylai gatiau fod o'r un safon o ddiogelwch a'r ffens y maent yn sownd ynddi gyda cholynnau gwrth-godi wedi eu gosod arni.
Dylid ystyried gwneud y bylchau rhwng y pyst yn llai, a sicrhau nad oes llawer o le rhwng gwaelod y giât a'r llawr er mwyn atal mynediad heb ganiatâd. Os yw'r tir o dan giât yn anwastad, gallai rhywun sydd a'i fryd ar ddwyn o'r safle gropian oddi tani. Dylid cau gatiau gyda chlo clap a bollten gyplu glos neu orchudd i atal y clo clap rhag cael ei agor â grym.
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch ffensys diogelwch ewch i www.securedbydesign.com.





