Cwestiynau a ofynnir yn aml
- C: Pam mae terfysgwyr yn defnyddio gwrtaith i wneud ffrwydron?
- C: Os ydy gwrtaith mor beryglus, pam nad yw wedi cael ei wahardd neu ei drwyddedu?
- C: Fydd hi'n ddrud i mi ddiogelu fy ngwrtaith?
- C: Beth ddylwn i ei wneud os ydw i'n meddwl fod peth o'm gwrtaith ar goll?
- C: Beth am weithgareddau amheus o amgylch y fferm?
- C: Ond dydy ffrwydron cartref ddim mor bwerus â hynny, ydyn nhw?
- C: Pam fyddai terfysgwr yn dwyn fy ngwrtaith i pan allai ei brynu gan fasnachwr?
- C: Hyd yn oed petawn i’n diogelu fy ngwrtaith, onid dim ond mynd ati i wneud math arall o ffrwydryn fyddai’r terfysgwyr?
- C: Mae’n ymddangos i mi mai’r brif broblem yw amoniwm nitrad – allwn ni ddim newid i wrea ar gyfer ein nitrogen?
- C: Rwyf wedi clywed nad yw’n bosibl defnyddio gwrtaith sy’n cynnwys lefelau is o nitrogen megis amoniwm nitrad calsiwm i wneud ffrwydron, ydy hyn yn wir?
- C: I ble ddylwn i fynd i gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i ddiogelu fy ngwrtaith?
C: Pam mae terfysgwyr yn defnyddio gwrtaith i wneud ffrwydron?
A: Mae'n anodd cael gafael ar ffrwydron masnachol a milwrol, yn arbennig yn y DG. Mae eu defnydd a'u gwerthiant yn cael ei reoli'n llym drwy ddeddfwriaeth sy'n cynnwys y gofyniad am fesurau diogelwch tynn ac mae hyn yn golygu fod yn rhaid i derfysgwyr wneud eu ffrwydron eu hunain. Mae gwrtaith, yn arbennig gwrtaith sy'n cynnwys amoniwm nitrad, i'w gael yn ddidrafferth a gellir ei droi'n ddyfais ffrwydrol yn hawdd iawn drwy ychwanegu sylweddau cyffredin eraill ato.
C: Os ydy gwrtaith mor beryglus, pam nad yw wedi cael ei wahardd neu ei drwyddedu?
A: Dim ond yn y dwylo anghywir y mae gwrtaith yn beryglus. Yr her ydy ei atal rhag disgyn i'r dwylo anghywir heb beri rhwystr gormodol i'r gymuned ffermio a thyfu cnydau. Mae amaethyddiaeth y DG yn dibynnu'n helaeth ar wrteithiau wedi'u cynhyrchu, ac mae'n bwysig, lle bo hynny'n bosibl, fod defnyddwyr dilys yn cael prynu, storio a defnyddio gwrtaith gyda chyn lleied o gyfyngiadau â phosibl.
Mae gwledydd megis Awstralia a Sbaen eisoes wedi pennu deddfwriaeth yn ymwneud â thrin amoniwm nitrad ac mae'r Unol Daleithiau hefyd yn mynd drwy'r broses o gyflwyno cyfreithiau tebyg. Y gobaith yw y byddwch chi'n gallu diogelu eich gwrtaith drwy ddilyn y cyngor ar y wefan hon heb fod y gyfraith yn eich gorfodi i wneud hynny.
C: Fydd hi'n ddrud i mi ddiogelu fy ngwrtaith?

A: Na – ni fydd y rhan fwyaf o'r camau yr argymhellir i chi eu cymryd i ddiogelu eich gwrtaith yn costio dim neu fawr ddim chi. Er enghraifft, ni ddylai cadw bagiau o wrtaith dan glo mewn storfa addas yn hytrach nag mewn ysgubor ochr agored gostio dim i chi ond efallai y bydd angen ychydig o gynllunio ymlaen llaw.
Ni fydd gwneud pethau syml megis cau a chloi gatiau a drysau sydd eisoes yno yn costio dim i chi 'chwaith. Dydy rhai o'r mesurau eraill, megis codi ffensys diogelwch, ddim mor ddrud â hynny os ydych yn meddwl am y gost dros dymor hir: dylai'r ffensys a gymeradwyir bara dros 15 mlynedd.
C: Beth ddylwn i ei wneud os ydw i'n meddwl fod peth o'm gwrtaith ar goll?
A: Hyd yn oed os ydych yn cadw cofnodion cywir o'ch cyflenwadau a'ch defnydd o wrtaith, efallai y bydd yn cymryd peth amser i chi ddarganfod fod gwrtaith ar goll. Os allwch chi gadw eich gwrtaith dan glo bydd mwy o dystiolaeth uniongyrchol ar gael, e.e. cloeon clap wedi malu a drysau ysguboriau wedi eu hagor gyda grym. Mewn unrhyw achos dylech riportio unrhyw ladrad neu golled nad oes modd ei esbonio i'r heddlu lleol yn ddi-oed.
C: Beth am weithgareddau amheus o amgylch y fferm?
A: Dilynwch eich greddf. Os ydych yn meddwl bod rhywbeth yn amheus, mae hi bob amser o werth ymchwilio ymhellach i’r peth. Ceisiwch wneud nodyn o ddisgrifiadau o gerbydau a phobl a chysylltwch â’ch heddlu lleol. Os yw eich galwad yn un brys, ffoniwch 999.
C: Ond dydy ffrwydron cartref ddim mor bwerus â hynny, ydyn nhw?

A: I’r gwrthwyneb, gall ffrwydron cartref fod yn bwerus dros ben a gall hyd yn oed rhai gweddol fychan achosi llawer o farwolaethau a difrod ofnadwy.
Achoswyd y ffrwydrad bom car a welir yn y llun ar y dde gyda ddim ond 25 cilogram (50 pwys) o wrtaith amoniwm nitrad.
Cyflawnwyd y bomio yn Omagh, pan laddwyd 29 o bobl, gyda thua 100 cilogram (220 pwys) o ffrwydryn seiliedig ar wrtaith.
C: Pam fyddai terfysgwr yn dwyn fy ngwrtaith i pan allai ei brynu gan fasnachwr?
A: Ychydig o gyfyngiadau sydd ar werthiant a chyflenwad gwrtaith, ond mae’r diwydiant wedi tynhau ei weithdrefnau yn sylweddol yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf o ran sicrhau fod cwsmeriaid yn ddefnyddwyr dilys. Gall pobl sy’n prynu gwrtaith am y tro cyntaf ddisgwyl gorfod rhoi digon o fanylion i’r masnachwr i’w fodloni fod ganddo ddefnydd dilys i’r gwrtaith. Dylid riportio ymholiadau amheus am wrtaith i’r heddlu. Mae’r mesurau gwirfoddol hyn - Fertiliser Industry Assurance Scheme - yn golygu ei bod yn anoddach nag erioed i brynu gwrtaith at ddefnydd maleisus.
C: Hyd yn oed petawn i’n diogelu fy ngwrtaith, onid dim ond mynd ati i wneud math arall o ffrwydryn fyddai’r terfysgwyr?
A: Mae’n wir y byddai’n rhaid i derfysgwyr ddod o hyd i ddulliau eraill o wneud ffrwydron pe bai’n gwbl amhosibl iddynt gael gafael ar wrtaith. Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o’r mathau eraill o ffrwydron yn fwy anodd i’w gwneud ac efallai nad yw’r cynhwysion mor hawdd i’w cael. Mae llawer o anawsterau eraill sy’n gwneud ffrwydron cartref eraill yn llai deniadol i’r terfysgwr na ffrwydron gwrtaith.
C: Mae’n ymddangos i mi mai’r brif broblem yw amoniwm nitrad – allwn ni ddim newid i wrea ar gyfer ein nitrogen?
A: Fyddai hynny ddim yn bosibl a dweud y gwir. Eisoes mae problemau arwyddocaol cysylltiedig â rhyddhau amonia i’r amgylchedd yn bodoli a byddai cynnydd yn y defnydd o wrtaith wrea yn arwain at gynnydd mewn allyriant niweidiol ac o bosibl at sancsiynau gan yr UE.
Dylid cofio y gellir defnyddio wrea i wneud ffrwydron cartref hefyd (dyma a ddefnyddiwyd yn yr ymosodiad ar Ganolfan Fasnach y Byd yn 1993). Mae llai o gyfyngiadau yn bodoli ar storio a thrin wrea a gallai hynny arwain at waethygu’r sefyllfa ddiogelwch pe bai pawb yn newid i ddefnyddio wrea.
C: Rwyf wedi clywed nad yw’n bosibl defnyddio gwrtaith sy’n cynnwys lefelau is o nitrogen megis amoniwm nitrad calsiwm i wneud ffrwydron, ydy hyn yn wir?
A: Na - gall terfysgwyr ddefnyddio gwrtaith sy’n cynnwys lefelau isel o nitrogen i wneud ffrwydron hefyd, ac maen nhw wedi gwneud. Mae’r ffrwydron ychydig yn llai pwerus ond maent yn ddigon niweidiol i fod yn destun pryder. Gellid hyd yn oed defnyddio'r math sy’n cynnwys lefelau isel iawn o nitrogen megis 20-10-10 i wneud ffrwydryn cartref effeithiol.
C: I ble ddylwn i fynd i gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i ddiogelu fy ngwrtaith?
A: Dylech gysylltu â’ch heddlu lleol a gofyn am gael siarad efo’r Swyddog Lleihau/ Atal Trosedd, a gall ef/hi roi cyngor ynglŷn â’ch sefyllfa arbennig chi.





