Teledu Cylch Cyfyng (TCC/CCTV)

Dylid gofyn am gyngor arbenigol cyn gosod system TCC.
Gall TCC fod yn opsiwn drud ac mae ei effeithiolrwydd yn dibynnu'n helaeth ar fesurau eraill atodol. Dyma rai materion y dylech eu hystyried cyn meddwl am osod system TCC.
- Ydy'r lleoliad wedi ei oleuo'n ddigon da i'r System TCC fod yn effeithiol bob awr o'r dydd?
- Sut fydd y delweddau'n cael eu recordio?
- Sut fydd modd ail-chwarae neu gopïo'r delweddau?
- Ymhle a sut fydd yr offer recordio yn cael ei gadw?
- Beth yw pwrpas y system TCC - i fonitro gweithgaredd ger mynedfa neu rywle arall?
- Sut fydd y delweddau'n cael eu trosglwyddo o'r camera i'r offer recordio?
- Pwy (os unrhyw un) fydd yn cadw llygad ar y delweddau?
- Os bydd y system TCC yn cofnodi digwyddiad, pwy fydd yn ymateb?
- Fyddai angen ichi gofrestru gyda'r comisiynydd gwybodaeth Dan y Ddeddf Gwarchod Data?
- Beth fydd cost gosod a chynnal a chadw'r system?
Beth bynnag fyddwch chi'n benderfynu ei osod, meddyliwch yn ofalus am leoliad y camera(u) a'r offer atodol:
- Ydy'r camera yn cynnig golygfa a delweddau o safon ddigon uchel i'ch dibenion chi?
- Fyddai'n bosibl i dresmaswyr gael at yr offer?
- Ydy'r ceblau sy'n rhedeg i'r camera yn ddiogel rhag ymyrraeth?
- Oes gennych chi arwyddion yn dweud fod system TCC ar waith?
Os mai dim ond eisiau cadw llygad ar ysgubor neu iard benodol ydych chi, mae systemau TCC ar gael y gallwch eu gosod eich hun am bris rhesymol.
Gall camerâu ffug fod yn ddull tymor byr effeithiol o atal troseddwyr sy'n bachu ar eu cyfle ond yn gyffredinol nid ydynt yn effeithiol yn erbyn tresmaswr mwy penderfynol sy'n debygol o sylweddoli ar unwaith mai rhai ffug ydyn nhw.
Mae'n bwysig eich bod yn edrych ar gefndir ac achrediad unrhyw gwmni TCC cyn trafod eich anghenion diogelwch. Fel gydag unrhyw gytundeb gwaith neu gytundeb cynnal a chadw, dylech amddiffyn eich hunan drwy:
- sicrhau fod y system yn cyrraedd y safonau Prydeinig angenrheidiol a'i bod yn cydymffurfio a gofynion y Ddeddf Gwarchod Data;
- darganfod os oes unrhyw gostau cudd megis costau gwasanaethu a chynnal a chadw;
- darganfod os oes costau ychwanegol am alw allan ychwanegol ac a fydd rhywun yn dod i'r lleoliad mewn argyfwng;
- cael o leiaf 3 dyfynbris gan gwmnïau gydag enw da;
- peidio â derbyn cytundeb llafar.





