Larymau a Systemau Datgelu Tresbaswyr

"Mae larymau yn gwneud i mi feddwl ddwywaith; mae'n haws mynd i rywle arall. Doeddwn i byth yn torri i mewn i rywle lle'r oedd 'na olau neu rywle efo larwm. Am bob fferm efo larwm, mae yna 20 arall heb yr un."

Blwch Larwm wedi’i osod ar y wal

Does dim dwywaith bod system datgelu tresmaswyr wedi ei gyfuno â larwm yn ataliad effeithiol. Mae astudiaethau wedi dangos fod eich safle'n llawer llai tebygol o gael ei dargedu os oes gennych system larwm wedi'i gosod a'i chynnal a'i chadw'n iawn.

Systemau Datgelu Tresmaswyr

Mae sawl math o system datgelu, sy'n addas ar gyfer ffermydd, a ddefnyddir i ysgogi larwm, er enghraifft:

Mae systemau mwy soffistigedig yn defnyddio datgelwyr electromagnetig wedi'u claddu neu gyfuniad o DCC ameddalwedd datgelu symudiad fideo.

Pa bynnag system ddatgelu a ddefnyddir dylai fod yn ddibynadwy, yn addas i'r pwrpas ac wedi ei chysylltu â system larwm fydd yn rhybuddio gweithredwr y safle neu'r heddlu (drwy ganolfan derbyn arwyddion larwm cymeradwy).

Systemau Larwm

Mae dwy fath sylfaenol o larwm:

Mae'n bwysig eich bod yn edrych ar gefndir ac enw da cwmni larwm cyn trafod eich anghenion diogelwch gyda hwy. Fel gydag unrhyw gytundeb gwaith neu gytundeb cynnal a chadw dylech amddiffyn eich hunan drwy sicrhau:

Nodwch NA FYDD yr heddlu'n mynychu lleoliadau lle ysgogwyd larwm clywadwy yn unig oni bai bod ffactorau eraill wedi sy'n awgrymu fod y larwm yn ddilys (e.e. sŵn gwydr yn torri). Noder hefyd y dylai fod o leiaf ddau ddeiliad allwedd sy'n gwybod sut mae'r larwm yn gweithio ac sy'n gallu caniatáu mynediad i'r ardal y mae'r larwm yn ei amddiffyn.

Dylai fod modd cysylltu â hwy dros y ffôn a dylent fedru cyrraedd y lleoliad o fewn 20 munud o dderbyn yr alwad. Cysylltwch â'ch Swyddog Atal Trosedd Lleol os byddwch angen unrhyw arweiniad neu gyngor ychwanegol ynglŷn â gosod larwm.

Am ragor o wybodaeth, gweler:

ACPO NFU Agricultural Industries Confederation ACPOS DEFRA Health & Safety Executive Heath & Safety Executive Northern Ireland